Ers ein diweddariad diwethaf ar gyfer Baldwin No.44699, mae'r gwaith metel newydd i alluogi gwneuthuriad y byncer ar gyfer y Baldwin wedi'i gyflawni ac mae'r paneli metel wedi'u bolltio i'w safle dros dro. Mae gwaith wedi digwydd ar 'wyneb' yr injan, gyda gosod blaen y blwch mwg ac atodi drws y blwch mwg. Mae gwaith hefyd wedi cychwyn ar gydosod simnai newydd ar gyfer yr injan gan ddefnyddio rhannau a achubwyd o'r simnai wreiddiol.

en English
X